Pam Cerdded?
Mae tystiolaeth yn dangos bod cerdded am hanner awr o leiaf 5 diwrnod yr wythnos, yn gallu gwella iechyd pobl mewn sawl ffordd.
Rhesymau Dros Ddechrau Cerdded
I gadw'n iach:
Mae cerdded yn cryfhau'ch calon, eich esgyrn a'ch cyhyrau, yn ogystal y'ch helpu i leihau pwysau gwaed uchel a gwella cylchrediad eich calon a'ch ysgyfaint.
Gall cerdded eich helpu i reoli'ch pwysau a helpu atal neu reoli clefyd siwgr.
I gynilo arian:
Gallwch gerdded am ddim a chynilo'ch arian bws neu betrol. Mae'n ffordd dda o gymdeithasu am ddim.
I'ch cadw'n hapus:
Mae cerdded yn gwella'ch tymer, yn gallu helpu ymladd yn erbyn iselder ysbryd a chynyddu'ch hunan hyder.
Er lles:
Ewch am dro yn eich parc lleol neu goedwig a darganfod yr hyn y gall natur ei wneud i leihau pwysau'r dydd, a thawelu'ch meddwl, a'ch helpu i ymlacio a chysgu'n well.
Am hwyl:
Gallwch gerdded gyda'ch ffrindiau neu ymuno y grŵp cerdded i ddarganfod faint o hwyl y cewch chi wrth gerdded!
Rhai Cynghorion Cyn Dechrau
- Siaradwch y'ch meddyg os ydych yn pryderu am eich iechyd.
- Gwisgwch esgidiau cyffyrddus.
- Cerddwch gyda ffrind neu gyda'ch grwp lleol Cerdded i Gadw'n Iach.
- Sylwch ar eich cynnydd: er enghraifft – ydy dringo'r grisiau'n haws?
- Ewch i leoedd gwahanol i gerdded.
Gallwch Gynnwys Cerdded Yn Eich Bywyd Bob Dydd Drwy:
- Ddefnyddio'r grisiau yn lle'r lifft.
- Mynd y'r ci am dro.
- Mynd am awyr iach amser cinio.
- Cerdded y plant i'r ysgol ac adref.
- Mynd oddi ar y bws un arhosfan ynghynt.
- Cerdded i fynd i brynu'r papur neu bostio llythyr.
- Parcio ychydig pellach a cherdded gweddill y ffordd.
- Cerdded fel teulu i ‘ymlacio' a chymdeithasu.