Pam Cerdded?

Mae tystiolaeth yn dangos bod cerdded am hanner awr o leiaf 5 diwrnod yr wythnos, yn gallu gwella iechyd pobl mewn sawl ffordd.

Rhai Cynghorion Cyn Dechrau

  • Siaradwch y'ch meddyg os ydych yn pryderu am eich iechyd.
  • Gwisgwch esgidiau cyffyrddus.
  • Cerddwch gyda ffrind neu gyda'ch grwp lleol Cerdded i Gadw'n Iach.
  • Sylwch ar eich cynnydd: er enghraifft ydy dringo'r grisiau'n haws?
  • Ewch i leoedd gwahanol i gerdded.

Gallwch Gynnwys Cerdded Yn Eich Bywyd Bob Dydd Drwy:

  • Ddefnyddio'r grisiau yn lle'r lifft.
  • Mynd y'r ci am dro.
  • Mynd am awyr iach amser cinio.
  • Cerdded y plant i'r ysgol ac adref.
  • Mynd oddi ar y bws un arhosfan ynghynt.
  • Cerdded i fynd i brynu'r papur neu bostio llythyr.
  • Parcio ychydig pellach a cherdded gweddill y ffordd.
  • Cerdded fel teulu i ymlacio' a chymdeithasu.

Rhesymau Dros Ddechrau Cerdded

I gadw'n iach:

Mae cerdded yn cryfhau'ch calon, eich esgyrn a'ch cyhyrau, yn ogystal y'ch helpu i leihau pwysau gwaed uchel a gwella cylchrediad eich calon a'ch ysgyfaint.

Gall cerdded eich helpu i reoli'ch pwysau a helpu atal neu reoli clefyd siwgr.

I gynilo arian:

Gallwch gerdded am ddim a chynilo'ch arian bws neu betrol. Mae'n ffordd dda o gymdeithasu am ddim.

I'ch cadw'n hapus:

Mae cerdded yn gwella'ch tymer, yn gallu helpu ymladd yn erbyn iselder ysbryd a chynyddu'ch hunan hyder.

Er lles:

Ewch am dro yn eich parc lleol neu goedwig a darganfod yr hyn y gall natur ei wneud i leihau pwysau'r dydd, a thawelu'ch meddwl, a'ch helpu i ymlacio a chysgu'n well.

Am hwyl:

Gallwch gerdded gyda'ch ffrindiau neu ymuno y grŵp cerdded i ddarganfod faint o hwyl y cewch chi wrth gerdded!