Rhowch gynnig ar yr Her 10,000 o Gamau!

Mae cerdded 10,000 o gamau bob dydd yn cael ei gydnabod fel modd i wella iechyd a lles gan Sefydliad y Galon. Fodd bynnag, amcangyfrifir mai dim ond rhwng 3,000 - 4,000 o gamau y bydd person yn ei gerdded bob dydd ar gyfartaledd! I gynnal eich cymhelliant, gallwch gymryd rhan mewn dwy rithdaith gerdded gan her Cerdded Caerdydd– ar hyd Llwybr Arfordirol Penfro ac o John O’Groats i Land’s End.

Cerdded Caerdydd Her

Map o Her.

Mae dechrau her Cerdded Caerdydd yn un ffordd o’ch helpu chi i gyflawni’r 30 munud o weithgarwch corfforol a argymhellir bob dydd.

Dewiswch un o’r heriau isod. Ffordd wych o wella eich lefel ffitrwydd yw dechrau gyda Her 1 ac yna parhau â Her 2.

Her 1: Llwybyr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro (186 milltir)

Her 2: John O'Groats i Lands End (1,465 milltir)

P’un ai ydych yn defnyddio pedomedr neu’n trosi’r pellter/amser yn gamau, gallwch gadw llygad ar ba mor bell y byddech wedi cerdded gyda phob rhith-her. Defnyddiwch eich taflen gofnodi bersonol i gofnodi’ch camau dyddiol, gan anelu at 10,00 cam bob dydd.

  • Cerdded am 20 munud = tua. 1,800 o gamau
  • 1 milltir = tua. 2,000 camau
  • Ansicr o’r pellter y gwnaethoch gerdded? Mapiwch eich taith gerdded: www.mapmyrun.com

Mae staff Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ymgymryd â’r her 10,000 cam.