Arwain Teithiau Cerdded
Gwirfoddoli a Hyfforddi
Mae gwirfoddoli gyda Cerdded i Gadw’n Iach Caerdydd yn rhoi’r cyfle i chi:
- Gyfarfod â phobl newydd yn eich cymuned.
- Rhannu’ch profiadau a gwybodaeth.
- Dysgu sgiliau newydd.
- Archwilio’ch ardal leol a mannau gwyrdd.
Rydym yn llunio grwpiau cerdded newydd yng ngwahanol rannau o’r ddinas ac mae hyfforddiant arweinwyr teithiau cerdded ar gael yn rheolaidd.
Beth mae’n golygu i fod yn arweinydd taith?
Mae angen arweinydd taith ac arweinydd cefn i gefnogi’r bobl hynny sy’n cerdded yn arafach ar bob un o’r grwpiau Cerdded i Gadw’n Iach.
Dyma dri phrif dasg arweinydd taith:-
- Cofnodi cofrestr cerddwyr ar gyfer pob taith.
- Casglu holiadur iechyd gan bob cerddwr newydd a.
- Pharatoi asesiad risg, wrth drefnu taith gerdded.
Cynigir hyfforddiant i baratoi gwirfoddolwyr i arwain teithiau neu dasgau eraill. Mae’r cwrs diwrnod am ddim a chaiff bawb sy’n dilyn yr hyfforddiant dystysgrif achrediad. Cynigir cwrs cefnogi bywyd mewn argyfwng i’r rhai sydd heb dderbyn unrhyw fath o hyfforddiant diweddar yn y maes.
Gwahoddir gwirfoddolwyr arfaethedig i fynd ar daith cerdded i ddod i ddeall y cynllun cyn y diwrnod hyfforddi.
Y rhinweddau pwysicaf i arweinyddion taith yw bod yn brydlon a dibynadwy!
Ydych chi am fod yn rhan o’r cynllun?
Gallwch gyfrannu mewn sawl ffordd ac mae i fyny i chi faint o amser yr ydych yn fodlon cynnig i helpu’r achos.
Os oes gennych ddiddordeb mae’r rhifau ffôn ar gael ar y dudalen Cysylltiadau.
Os nad ydych chi’n teimlo y gallech roi o’ch amser i fod yn arweinydd taith ond hoffech helpu’r cynllun Cerdded i Gadw’n Iach Caerdydd, mae sawl peth arall y gallech chi wneud i helpu, sef cynllunio llwybrau teithiau ac asesu risgiau’r daith, neu gynnig cymorth cyffredinol i’r cerddwyr.