CERDDED I GADW'N IACH CAERDYDD

Croeso i wefan cynllun Cerdded i Gadw’n Iach Caerdydd. Mae Cerdded i Gadw’n Iach yn gyfres o deithiau tywys drwy’r ddinas gyfan, i annog trigolion Caerdydd i ymarfer eu cyrff yn amlach.

Nod y cynllun yw annog pobl nad ydynt yn ymarfer eu cyrff yn aml i ddechrau cerdded mwy ac ennill hyder i barhau i ymarfer eu cyrff yn rheolaidd, naill ai mewn grŵp neu ar eu pen eu hunain.

Rydym wedi datblygu cyfres o deithiau tywys gydag arweinwyr a staff cymorth eraill. Cynghorir cerddwyr i ddechrau â theithiau rhwydd am ychydig wythnosau cyn ceisio teithiau hwy..

Mae’r teithiau cerdded yn agored i bawb ond efallai bod rhai o’r teithiau yn fwy addas ar gyfer pobl mewn cadeiriau olwynion neu â phram nag eraill (cysylltwch â’n Cydlynydd i ofyn am gyngor).

Gall gerdded yn gyflym yn rheolaidd helpu pobl i deimlo’n well mewn nifer o ffyrdd: