Cefndir Cerdded I Gadw'n Iach
Hanes y Cynllun
Yn 2001 lansiwyd rhaglen i wella iechyd a lles pobl dan anfantais ac eisteddog gan Gronfa Fawr y Loteri, CCC (Cyngor Cefn Gwlad Cymru), a Sefydliad Prydeinig y Galon drwy hyrwyddo cerdded yn rheolaidd o fewn eu cymunedau lleol. Felly cynigiwyd grantiau a chyngor i gefnogi 22 cynllun "Cerdded i Gadw'n Iach" lleol ledled Cymru.
Datblygodd gynllun Caerdydd yn raddol yn ystod y blynyddoedd cyntaf ac yn 2004 enillodd Cerdded i Gadw'n Iach Caerdydd gynnig am grant o £38,000 gan CCC dros 2 flynedd a hanner (tan Rhagfyr 2006.) Gyda'r cyllid roedd yn bosibl ariannu swydd Cydlynydd Iechyd rhan amser, a alluogodd y cynllun i ddatblygu'n gyflym, a ffocws i hyrwyddo a datblygu'r cynllun yng Nghaerdydd.
Yn 2007 cytunodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi cynlluniau cerdded yng Nghymru trwy Dewch i Gerdded Cymru. Ond bydd yr ariannu yn parhau tan Medi 2010 yn unig.
Mae dyfodol y cynllun yn cael ei drafod.
Erbyn hyn mae Cerdded i Gadw'n Iach Caerdydd yn trefnu 13 o deithiau cerdded yn rheolaidd mewn sawl ardal o'r ddinas.
Mae Cerdded i Gadw'n Iach Caerdydd hefyd yn trefnu nifer o Deithiau Cerdded Arbennig yn ystod y flwyddyn ac yn cynhyrchu Cylchlythyr bob chwe mis ar gyfer y cerddwyr rheolaidd.
Mae Cerdded i Gadw'n Iach Caerdydd hefyd wedi datblygu cyfres o Deithiau Cerdded Annibynnol mewn partneriaeth ag aelodau ein grwp llywio.


